Neidio i'r prif gynnwy

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi ymweld â ni neu hyd yn oed os ydych chi’n siopwr profiadol o Ganolfan  Santes Tudful, rydyn ni’n siŵr y byddwch chi’n dod o hyd i ddigonedd o wybodaeth ddefnyddiol isod.

Oriau Agor y Ganolfan Siopa

Ein horiau gweithredu presennol yw dydd Llun – dydd Sadwrn, 7yb – 6yp a dydd Sul, 9.30yb – 5.15yp (sylwer: gall oriau gwyliau amrywio).

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Swyddfa Reoli sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9yb-5yp (Ac eithrio Gwyliau Banc) ar 01685 384 468.

Oriau Agor y Farchnad

Ein horiau gweithredu yn y Farchnad Dan Do yw dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am – 5pm (sylwer: gall oriau gwyliau amrywio).

Cyfarwyddiadau

Mae’n hawdd ein cyrraedd ni mewn car gan fod Merthyr Tudful yn elwa o gysylltiadau ffordd ardderchog, y tu mewn i’r triongl a grëwyd gan ffyrdd yr A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd), yr A4060 a’r A470. Dilynwch yr arwyddion am Ganol Tref Merthyr Tudful.

Dylai defnyddwyr Sat Nav ddilyn CF48 1AR i gael mynediad i'r maes parcio ger y Ganolfan Siopa. Mae arwyddion clir i'r maes parcio hwn ar ôl cyrraedd Canol Tref Merthyr Tudful.

Toiledau

Mae ein hystafell ymolchi a'n cyfleusterau newid cewynnau wedi'u lleoli'n gyfleus o fewn ardal y Farchnad Dan Do yn y Ganolfan. Mae'r ystafelloedd ymolchi yn cynnwys cyfleusterau newid i deuluoedd a chyfleusterau wedi'u haddasu ar gyfer defnyddwyr anabl.

Lifftiau

Mae gennym ni lifft pwrpasol i deithwyr ar y safle i gynorthwyo ymwelwyr i symud yn gyfleus rhwng lloriau ac ardaloedd siopa.

Gwasanaethau Anabledd

O eiliau lletach i rampiau a lifftiau i hwyluso mynediad ar draws y Ganolfan, rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn mwynhau eu hunain yn ystod eu hamser gyda ni yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful.

Meysydd Parcio

Mae gan Ganolfan Siopa Santes Tudful gyfoeth o gyfleusterau parcio ceir ger y safle. Dilynwch y mannau parcio ag arwyddion wrth i chi gyrraedd  Merthyr Tudful i gael arweiniad ar ble i ddod o hyd i’r rhain.

Siopwyr Bach

Ymweld â'r Ganolfan gyda phlant? Peidiwch â phoeni - rydyn ni wedi meddwl chi. Ar y ddwy lefel Canolfan Siopa fe welwch lu o reidiau plant bach, heb anghofio am y rhaglen adloniant enfawr y mae Santes Tudful wedi dod mor adnabyddus amdani.

Peiriannau Arian Parod

Rydym yn gwahodd ymwelwyr i ddefnyddio un o'n peiriannau arian parod niferus ar y safle i gael mynediad ar unwaith i'ch arian parod.