Merthyr Tudful yw canolbwynt masnachol, cymdeithasol a manwerthu’r Fwrdeistref Sirol ac mae’n dod i’r amlwg fel canolfan ranbarthol rhanbarth Blaenau’r Cymoedd.
Lleolir y Dref ar ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, tua 25 milltir i'r gogledd o Gaerdydd. Mae'r dref yn elwa o gysylltiadau ffordd ardderchog, y tu mewn i'r triongl a grëwyd gan ffyrdd yr A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd), yr A4060 a'r A470. Wedi’i hadeiladu’n wreiddiol ym 1970, cafodd y Ganolfan ei hadnewyddu’n helaeth yn ystod 1993 i ddarparu amgylchedd modern wedi ei led-orchuddio i gerddwyr sydd bellach yn brif ddarpariaeth manwerthu’r Dref, sef Ffordd Graham Way a Rhodfa’r Farchnad Newydd.
Yn syml, ni fyddai ymweliad â Chanolfan Siopa Santes Tudful yn gyflawn heb daith gerdded fer trwy ein marchnad Canolfan dan do arbennig iawn, lle cewch gyfle i gwrdd â’n cymuned leol anhygoel a chael gafael ar amrywiaeth wych o gynnyrch ac anrhegion. O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, mae ein masnachwyr marchnad wedi bod yn gwerthu am flynyddoedd maith – yn wir, mae rhai masnachwyr hyd yn oed wedi bod gyda ni ers dros 40 mlynedd! O ran hanes, mae gennym ni ddigon.
Bob amser yn barod, beth bynnag y tywydd, mae ein marchnad dan do yn bersonol ac yn lle gwych i sgwrsio â'r bobl leol a gweld eu hystod enfawr o eitemau sydd ar werth. Fel y dywedasom – ni fyddai ymweliad â Chanolfan Siopa Santes Tudful yn gyflawn heb ymweliad â’r Farchnad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein rhestr lawn o Stondinau a darganfod trysor cudd yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful.
Gydag ystod eang o frandiau stryd fawr, busnesau lleol a rhai mannau cymdeithasol gwych, Canolfan Siopa Santes Tudful yw'r lle gorau i fod ynddo.