Hope Rescue yw’r brif elusen lles cŵn sy’n achub bywydau cŵn strae, cŵn wedi’u gadael a chŵn nad oes eu heisiau yn Ne Cymru. Ers 2005, mae ein tîm wedi rhoi ail gyfle i filoedd o gŵn sydd angen dechrau newydd, o'n cyfleusterau pwrpasol yn Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn helpu’r cŵn mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau lleol, gan weithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol ar draws De Cymru i’w cefnogi gyda’u cŵn strae a chŵn a atafaelwyd o les isel bridwyr anghyfreithlon. Rydym hefyd yn darparu cymorth gwerthfawr i berchnogion anifeiliaid anwes mewn argyfwng sydd angen ailgartrefu eu hanifeiliaid anwes.
Mae Hope Rescue yn ymgyrchu’n frwd dros welliannau i ddeddfwriaeth lles anifeiliaid a gorfodi, ac yn rhoi cymorth a chyngor i’r cyhoedd ar berchenogion cŵn cyfrifol.